Scan barcode
nicdafis's reviews
397 reviews
The Beautiful Years; A Tale of Childhood by Henry Williamson
5.0
Syndod i fi faint o'n i'n joio hwn. Byddet ti'n meddwl bod llyfr sy'n wneud cymaint o ddefbydd o'r ymadrodd "I say, rather" ddim yn debyg o apelio. Ond fe wnaeth. Edrych ymlaen at ddarllen gweddill y gyfres.
England Have My Bones by T.H. White
3.0
Wnes i sgimio'n eitha aml, sy byth yn arwydd da. 'Swn i wedi darllen y lein am y gwahaniaeth rhwng rhoi slap bach yn wyneb dy wraig yn lle "punching her in the teeth" yn gynt yn y llyfr, anhebyg iawn fyddwn i wedi cadw i fynd gyda fe. Ffeindies i "The Peregrine" yn llawer mwy diddorol na'r un 'ma.
Salar the Salmon by Henry Williamson
5.0
Falle ddim mor hawdd i'w charu â Tarka the Otter, ond yn wych o lyfr, sy'n mynd â'r darllenydd tu mewn i groen y pysgodyn a sawl anifail arall sy'n byw yn, ac wrth, yr afon.